
33. Julian Cayo Evans
Arweinwyr (257 o bleidleisiau)
1937 – 1995
Arweinydd "Byddin Rhyddid Cymru" - ymladdwr carismataidd dros ryddid i rai, ymhonnwr annymunol i eraill.
Pan honnodd yr FWA eu bod yn hyfforddi cŵn i gludo bomiau i leoliadau oedd yn perthyn i"r llywodraeth, nid yr RSPCA yn unig oedd wedi"u cynddeiriogi.
Yn y cyfnod yn arwain i fyny at arwisgiad y Tywysog Siarl yng Nghaernarfon ym 1969, roedd y tyndra gwleidyddol yn amlwg. Roedd ffrwydron wedi achosi difrod mewn sawl lleoliad, ond nid oedd neb wedi"u hanafu.
Cafodd yr FWA sylw mawr yn y wasg ym Mhrydain a thramor - gan hawlio dudalennau canol y New York Times ar un achlysur, a chael cyfweliad gan David Frost yn Llundain. Roedd eu parodrwydd i siarad yn agored am eu hamcanion chwyldroadol yn freuddwyd i bob newyddiadurwr oedd yn chwilio am bennawd.
Daeth yr FWA i"r amlwg gyntaf ym 1963, yn martsio yn eu lifrai miltaraidd gyda bathodyn "Eryr Gwyn Eryri" yn ychwanegu at y ddelwedd, a Gelert y Ci yn fascot. Byddent yn ymddangos ar achlysuron megis Cofio Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri. Ffilmiwyd hwy yn ymarfer ar ucheldir anial Ceredigion - ond roedd hi"n amlwg mai bychan oedd nifer aelodau Byddin Rhyddid Cymru.
Eu harweinydd oedd Julian Cayo Evans. Ar ôl cael ei addysgu yn ysgol breswyl ddrud Millfield, ymunodd â"r fyddin, a bu"n gwasanaethu ym Malaia.
Etifeddodd ystad Glandenys ger Llanbedr Pont Steffan, ac oddi yno yr arweiniodd "ymgyrchoedd" yr FWA.
Wrth i broffil "Y Fyddin" godi, yn anorfod roeddent hefyd yn denu sylw"r awdurdodau yn fwyfwy. Cafodd Cayo Evans a"i ddilynwyr eu harestio. Ac mewn achos a barodd yn hirach ac a gostiodd fwy na"r un achos o"i flaen, dyfarnwyd sawl un ohonynt yn euog, a charcharwyd Cayo Evans a Dennis Coslett am bymtheng mis.
Oriau cyn yr arwisgiad, cafodd dau ddyn eu lladd gan fom o"u gwneuthuriad eu hunain. Nid oedd yr un ohonynt yn perthyn i"r FWA. Ac ni chafwyd hyd i unrhyw dystiolaeth a gysylltai Cayo a"i "filwyr" â gweithredoedd treisgar.
Mae"n debyg y bydd rhai yn ddig bod enw Cayo Evans yn ymddangos yn rhestr 100 o Arwyr Cymru. Ond i"w ffrindiau, fel Rhobert ap Steffan, roedd yn "gawr, gyda phersonoliaeth wir ddeniadol". Ac yn gofeb iddo mae tafarn y Cayo Arms yng Nghaerdydd a Chwrw Cayo.
