Catherine Zeta Jones

13. Catherine Zeta Jones

Perfformwyr (1136 o bleidleisiau)

1969 –

Actores, cantores, dawnswraig ac enillydd gwobr Oscar

Yng nghanol yr 80au, cynhyrchwyd cyfres ddogfen o"r enw West End Girls gan gwmni teledu HTV oedd yn dilyn hynt a helynt tri pherfformiwr ifanc oedd wedi ennill rhannau bach mewn sioeau cerdd yn Llundain.

Mewn un rhaglen daeth doniau canu a dawnsio trydanol merch 17 oed o Abertawe, oedd wrthi"n gweithio"n galed yng nghôr 42nd Street, i"r amlwg. Yn nhraddodiad rhamantus y byd adloniant, cwympodd y cynhyrchwyr mewn cariad â hi. Cafodd ei dyrchafu o fod yn ail ddirprwy i fod ymhlith prif actorion y cynhyrchiad.

Fe fyddai"n ddegawd a mwy cyn i"r byd ddal i fyny gyda"r hyn oedd yn amlwg i gynhyrchwyr y West End ac i wylwyr rhaglenni teledu yng Nghymru. Roedd Catherine Zeta Jones yn seren o bwys.

Nid oedd ei llwybr i enwogrwydd heb ei droeon trwstan. Roedd ei gyrfa gynnar yn llawn munudau anghofiadwy - yn enwedig ei hymgais fel diva canu pop. Ond fe ddaeth ei chyfle, gan brofi bod talent yn ennill yn y diwedd.

Y llwyfan perfformio oedd yn aros am Catherine Zeta Jones - mae"r enw canol lliwgar di-Gymraeg yn fenthyciad o long sydd â chysylltiadau teuluol. Chwaraeodd ran mewn sioeau amatur niferus yn Abertawe cyn i Lundain ei denu.

Daeth yn adnabyddus trwy Brydain, pan chwaraeodd ran Mariette yn y gyfres deledu boblogaidd The Darling Buds Of May. Ond daeth yr enwogrwydd heb i amrywiaeth ei doniau ddod i"r amlwg.

Ar ôl i"r gyfres ddod i ben, treuliodd Catherine flynyddoedd digyfeiriad yn cael ei thrin fel tegan gan y papurau newydd "tabloid" yn hytrach na chael ei chymeradwyo am ei dawn. Yn yr 90au cynnar symudodd i Los Angeles ac ymhen tipyn, daeth i sylw"r cyfarwyddwr pwerus Steven Spielberg.

Trwy hap a damwain dewisodd Spielberg un o enwogion Port Talbot i chwarae rhan tad y dywysoges o Abertawe yn The Mask Of Zorro. Roedd yn llwyddiant ysgubol. Yna ymddangosodd yn Entrapment gyda Sean Connery. Llwyddodd hefyd yn ystod y cyfnod hwn i rwydo"r actor Michael Douglas.

Wrth chwarae Velma Kelly yn Chicago, fersiwn ffilm o ddrama gerddorol Bob Fosse, roedd gan Catherine o"r diwedd ran oedd yn gwneud y mwyaf o"i dawn sylweddol i ganu, dawnsio ac actio. Ni synnwyd neb a welodd ei pherfformiad hyderus pan enillodd wobr am yr Actores Gynhaliol Orau yn noson wobrwyo"r Oscars 2003.

Eich sylwadau chi

Nid yw wedi anghofio ei gwreiddiau, a’r bobl sydd wedi’i rhoi yn lle mae hi heddiw.

….allwch chi feddwl am Gymraes harddach na Caetherine Zeta-Jones? Alla i ddim…..

Gan ei bod yn berfformwraig gwych a hoffwn i fod yr un peth â hi!

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru