Captain Henry  Morgan

77. Harri Morgan

Arloeswyr (71 o bleidleisiau)

1635 – 1688

Mab i deulu o Uchelwyr o Sir Fynwy, a ragorodd ar Syr Francis Drake gyda"i orchestion herfeiddiol yn y Caribî.

Yn y dyddiau o ffrwgwd di-baid rhwng môr-ladron yng Ngharibî"r 17eg ganrif, Harri Morgan oedd brenin y tonnau ac ef oedd yn rheoli"r rhan fwyaf o"r tir hefyd.

Er gwaethaf ei ddelwedd afradlon a chreulon, sydd wedi ei anfarwoli mewn nifer o weithiau ffuglen ac mewn brand enwog o rym, roedd Harri Morgan yn ddyn uchel ei barch a oedd yn dueddol o erlyn unrhyw un oedd yn awgrymu i"r gwrthwyneb.

Yn wahanol i fôr-ladron, a allai gael eu crogi am fod yn herwyr, roedd "Herwlongwyr" fel Morgan yn cael cefnogaeth swyddogol eu llywodraethau, tra"u bod hefyd yn elwa"n bersonol o ysbail eu hanturiaethau.

Y nod oedd llacio gafael Sbaen ar y trefedigaethau cyfoethog, yr oeddent wedi sefydlu yn yr ardal. Nid oedd neb yn fwy llwyddiannus yn gwneud hynny na Harri Morgan

Cafodd ei eni i deulu bonheddig yn Llanrhymni, sydd erbyn hyn yn rhan o Gaerdydd, ond a oedd ar y pryd yn Sir Fynwy. Ym 1655 teithiodd i Barbados lle y dechreuodd ar yrfa gymharol ddigyffro fel swyddog rheng ganol yn y fyddin.

Mae"n ymddangos bod cymryd rhan mewn cyrch llwyddiannus a phroffidiol ar Ciwba wedi codi"r awch arno i ysbeilio. Ym 1663, arweiniodd gyrch i Fecsico lle goresgynnodd dref Granada.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, ymosododd ar Portobello a elwir heddiw yn Panama. Roedd yn gyrch beiddgar a enillodd iddo nid yn unig yr ysbail arferol ond hefyd ryddid nifer o garcharorion Prydeinig oedd wedi cael eu trin yn giaidd o greulon.

Portobello yn anad dim a ddaeth ag enw Morgan i"r amlwg, ac mae"r digwyddiad wedi"i goffáu mewn enw stryd enwog yn Llundain. Yn dilyn hynny, ymosododd ar Haiti.

Cynyddodd gyfoeth ac enwogrwydd Morgan yn fwy fyth pan, ar ôl iddo ddianc o drwch y blewyn o afael y llynges Sbaenaidd, fe feddiannodd drefi Maracaibo a Gibraltar yng Ngwlff Venezuela.

Ym 1770, llwyddodd Morgan ble roedd Drake ei hun wedi methu"n gynharach, trwy arwain ymron i ddwy fil o ddynion mewn ymosodiad ar ddinas bwysig Panama a sefydlwyd gan y Sbaenwyr. Yn ôl adroddiadau ar y pryd, fe rwydodd y cyrch ddigon o drysorau i wneud hyd yn oed y morwr bach mwyaf dinod yn ŵr cyfoethog.

Erbyn hynny roedd Morgan ymhlith y dynion cyfoethocaf ar y ddaear.

Eich sylwadau chi

Ychydig iawn sydd wedi cael dylanwad mwy ar hanes y byd drwy eu gweithrediadau na’n Harri ni!

Deallus, beiddgar, dewr a strategydd gwych, roedd yr anturiwr hwn yn mynnu parch brenhinoedd a môr-ladron yn debyg. Hefyd, fel llywodraethwr Jamaica cafodd flas ar feithrin cansen siwgr, a chynhyrchu ei frand ei hun o rym. Am ddyn!!

Llywodraethwr Jamaica, sylfaenydd yr ymerodraeth Brydeinig, herwlongwr, Cymro a pherchennog barf coch anferth.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru