
55. Bryn Terfel
Perfformwyr (138 o bleidleisiau)
1965 –
Canwr byd enwog sydd wedi dewis glynu"n dyn at ei wreiddiau yng Nghymru.
Mae mynd â"r gân o"r Eisteddfod i dŷ opera"r Metropolitan yn Efrog Newydd yn gamp anodd. Ond llwyddodd Bryn, yn ôl pob tebyg, i"w chyflawni yn ddidrafferth.
Fel mae ef ei hun wedi dweud droeon, mae"r cystadlu yn yr eisteddfodau pan oedd yn ifanc wedi rhoi sylfaen heb ei hail iddo. Aeth i Goleg Cerdd y Guildhall yn Llundain, lle y disgleiriodd ymhlith myfyrwyr ei flwyddyn.
Daeth i sylw"r byd y tu hwnt i Gymru gyntaf, pan gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Canwr y Byd ym 1989. Y bariton o Rwsia, Dmitri Hvorostovsky oedd yr enillydd. Cipio"r wobr am ganu lieder wnaeth Bryn.
Ond roedd y Cymro wedi denu sylw"r byd opera. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel canwr opera proffesiynol gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru - fel Guglielmo yn Cosi Fan Tutte. Yn union wedyn canodd ran y prif gymeriad yn Le Nozze di Figaro.
Gwnaeth argraff aruthrol ar reolwyr tai opera, ac o fewn dim roedd ei fywyd yn un rhuthr o gwmpas y byd yn canu opera ac yn recordio mewn stiwdios. Yn ystod yr 1990au, canodd yn y rhan fwyaf o"r tai opera a"r gwyliau cerddorol pwysig. Rhyddhawyd llawer iawn o"i waith ar label ddylanwadol Deutsche Grammophon.
Pan oedd ei yrfa fel canwr cerddoriaeth glasurol wedi"i sicrhau, trodd i gyfeiriad mwy poblogaidd. Ym 1996 canodd ar sioe enwog David Letterman yn America, a chyhoeddodd albwm o ffefrynnau Rogers a Hammerstein
Fel arfer, mae"r cyfryngau yn neilltuo lle i un seren fawr operatig ar y tro. Gellid dweud mai Luciano Pavarotti sydd wedi hawlio"r lle hwnnw am flynyddoedd , ond wrth iddo ef nesáu at amser ymddeol, mae Bryn Terfel wedi cymryd ei le ar yr orsedd.
Nid oes yr un Cymro - ers Syr Geraint Evans o bosibl - wedi gwneud mwy o argraff ar Fyd y Gân na Bryn Terfel.
Mae ei Gymreictod a"r iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o"i gymeriad. Dyna pam y mae wedi dewis byw yng Nghymru, yn Arfon, lle y gall ei dri mab gael eu magu yn sŵn iaith y nefoedd. Er gwaethaf ei brysurdeb yn rhyngwladol, mae ganddo"r amser i noddi neu gyfrannu at achlysuron niferus - llawer ohonynt yn ymwneud ag achosion da.
Yn sicr, dim ond un canwr all arwain y dorf yn Hen Wlad fy Nhadau ar ddechrau gêm bêl-droed neu rygbi yn Stadiwm y Mileniwm a hefyd serennu ar noson "uchel-ael" agor Canolfan y Mileniwm. Bryn Terfel yw hwnnw.
