
61. Bill Frost
Arloeswyr (120 o bleidleisiau)
1850 – 1935
Arloeswr hedfan sydd o bosibl yn gyfrifol am y gamp o adeiladu"r awyren gyntaf.
A drechodd Cymro o Sir Benfro y brodyr Wright yn eu hymgais i fod y cyntaf i hedfan awyren a dyn ynddi trwy ddefnyddio awyren oedd yn drymach nag aer?
Mae hanes yn cofnodi bod y brodyr Wright wedi llwyddo i hedfan dros 400 llath yn Kitty Hawk, Gogledd Carolina ar 19 Rhagfyr 1903. Ond yn nhyb llawer, nid yr Americanwyr oedd y cyntaf i gyflawni"r orchest.
Cred nifer y dylid rhoi cydnabyddiaeth i Frost am gyflawni hynny flynyddoedd ynghynt yn Saundersfoot. Saer oedd Frost, a chan ddefnyddio"i holl sgiliau, cynlluniodd ac adeiladodd "Beiriant Hedfan" o brennau bambŵ. Fe"u clymodd ynghyd â"u gorchuddio drwy ymestyn defnydd drostynt.
Mae"r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw ym mis Medi 1895 wedi bod yn destun dadlau a dyfalu. Yn ôl y chwedl, does dim amheuaeth bod y peiriant wedi codi o"r llecyn adnabyddus lleol, sef Stammer Hill, a"i fod wedi hedfan tan iddo daro coeden.
Mewn cyfweliad yn y Western Mail ym 1935, soniodd Frost am ei awydd angerddol i fod y person cyntaf i hedfan. Mae"r erthygl yn dyfynnu Frost sy"n hawlio ei fod wedi llwyddo i wneud hynny. Mae eraill yn amau hynny oherwydd nad oes cofnod ar gael sy"n profi gwirionedd yr honiad.
Yn ddiddorol, mae"n bosibl bod cymorth ar gael erbyn hyn. Mae arbenigwyr hedfan yn sefydliad yr Awyrennau Brenhinol yn Boscombe Down yn Wiltshire yn gweithio ar gynllun i ail-greu"r "Peiriant Hedfan". Byddant yn defnyddio nodiadau cynllunio Frost i geisio canfod a oedd y Cymro wedi cyflawni"r ornest o flaen y brodyr Wright.
Beth bynnag yw"r gwirionedd ynglŷn â"r digwyddiad hanesyddol, heb os mae Bill Frost yn arloeswr ym myd hedfan. Roedd ei "Beiriant Hedfan" wedi darparu"r cysylltiad rhwng yr awyren a"r llong awyr.
