Bertrand Russell

12. Bertrand Russell

Meddylwyr (1469 o bleidleisiau)

1872 – 1970

Athronydd mwyaf Prydain yn yr Ugeinfed Ganrif

Cafodd Bertrand Russell, y cawr deallusol o’r 20fed ganrif, ei eni yn Nhryleg, Sir Fynwy a bu farw bron i ganrif yn ddiweddarach ym Mhenrhyndeudraeth ym Meirionnydd.

Roedd ei faes llafur mor eang fel y gallwn ei gydnabod fel polymath go iawn. Eto mae’n anodd ei roi mewn categori arbennig. Roedd ei Astudiaethau yn cynnwys Athroniaeth, Rhesymeg a Mathemateg.

Roedd hefyd yn awdur ysgrifau, yn feirniad cymdeithasol, a chyfrannodd yn helaeth at bynciau megis addysg ac astudiaethau crefyddol.

 Live this field must be checked, unchecking will erase the current data when savingCafodd ei eni i deulu oedd yn adnabod y bobl iawn, gan i’w dad fod yn Brif Weinidog ddwywaith. Ar ôl i’w rieni farw pan oedd yn bedair oed, cafodd ei fagu gan ei fam?gu a’i dad?cu.

Aeth i Goleg y Drindod yng Nghaergrawnt lle cafodd raddau dosbarth cyntaf mewn mathemateg a gwyddorau moesol. Ond cafodd ei hel o’r Drindod ym 1916, pan dderbyniodd ddirwy am ymgyrchu’n erbyn y rhyfel.

Nid dyma’r unig dro o bell ffordd i Russell sathru ar gyrn yr awdurdodau. Ar ddiwedd y 1930au, cafodd gynnig swydd fel darlithydd yn y City College yn Efrog Newydd. Ond ar ôl cyfres o brotestiadau a phenderfyniad barnwrol dyfarnwyd ei fod yn anaddas i ddysgu yn y Coleg a thynnwyd y cynnig yn ôl.

Ym 1950 enillodd Wobr Nobel am Lenyddiaeth. Arweiniodd hynny at gyfnod hyd yn oed fwy gweithgar. Yn ystod yr 1950au, a’r 1960au cynnar daeth Russell – a oedd wedi cyhoeddi maniffesto Rusell-Einstein ar y cyd ag Albert Einstein ym 1955 – yn llefarydd ar yr ymgyrch yn erbyn arfau niwclear oedd yn ei anterth. Cafodd ei garcharu am gyfnod oherwydd ei ran yn yr ymgyrch.

Roedd Russell yn weithgar yn ymron pob agwedd ar fywyd cyhoeddus. Bu’n briod bedair gwaith, a bu’n ymgeisydd seneddol aflwyddiannus deirgwaith. Daliodd i fod yn ffigwr flaenllaw hyd at ei farw yn 97 oed.

Eich sylwadau chi

Un o’r meddylwyr gorau y cyfnod hwn. Mae ei waith ar athroniaeth yn parhau i roi cipolwg i’r athronwyr sydd ynom i gyd.

Yn syml yr athronydd PRYDEINIG gorau erioed. Wrth ddarllen ei waith cefais fy ysgogi i werthuso bywyd a’i ystyr.

Athronydd sy’n uchel ei barch ymhlith yr athronwyr parchus.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru