
31. Rowan Williams
Meddylwyr (273 o bleidleisiau)
1950 –
Archesgob Caergaint, arweinydd ysbrydol 70 miliwn o Anglicaniaid yn fyd-eang.
Yn ôl Beda Ddoeth, pan gwrddodd Sant Awstin ag Esgobion Cymru ym Mhenrhyn Awstin ger Bryste tua 602 OC, roedd y canlyniad yn ddim byd llai na thrychineb o safbwynt cysylltiadau cyhoeddus.
Yn lle uno"r Eglwysi Celtaidd ac Anglo-Sacsonaidd, fel y dymunai Awstin, roedd y cyfarfod yn fethiant llwyr, gyda"r Cymry yn gwrthod yn deg ag ildio i"r cennad trahaus hwn o Rufain.
Byddai mil a phedwar cant o flynyddoedd wedi mynd heibio, a chant a dau o archesgobion Caergaint eraill wedi"u hethol, cyn i Gymro Cymraeg wisgo mantell Archesgob Eglwys Loegr.
Ganed Rowan Williams yn Ystradgynlais, a chafodd ei fagu yn Abertawe, gan fynychu ysgol Dinefwr lle"r oedd Syr Harry Secombe yn ddisgybl hefyd. Er ei fod o deulu Presbyteraidd, fe ddechreuodd y Rowan ifanc fynd i wasanaethau Anglicanaidd yn Eglwys yr Holl Saint yn Ystumllwynarth.
Enillodd y llanc deallus le yng Ngholeg Crist yng Nghaergrawnt i astudio Diwinyddiaeth. Ysgrifennodd ei lyfr cyntaf pan oedd yn 29 oed, a saith mlynedd wedyn fe gafodd ei benodi"n Athro - yr ieuengaf ym mhrifysgol Rhydychen.
Tra"n astudio, mae"n amlwg na fu i Rowan Williams gefnu ar drafferthion y byd go iawn. Yng Nghaergrawnt, croesawodd grwydriaid, nad oedd ganddynt unman arall i fynd, i rannu ei ystafell yn y coleg.
Ym 1991, trodd ei gefn ar y bywyd academaidd gan ddychwelyd i Gymru fel esgob Mynwy. Yma y daeth ei ddaliadau rhyddfrydol i"r amlwg pan leisiodd ei gefnogaeth i ordeinio menywod.
Ym 1999, cafodd Rowan Williams ei ethol yn Archesgob Cymru, swydd a ddaliodd tan Orffennaf 2002 pan ddaeth yn Archesgob Caergaint. Mae un pwnc wedi hawlio lle blaenllaw ar ddechrau ei swydd, sef ethol esgobion sy"n agored hoyw.
Mae ei allu i lywio"r Eglwys drwy"r rhaniadau hyn yn debyg o bennu"r ffordd y bydd hanes yn cofio amdano. Fel yr oedd i"w ragflaenydd, Sant Awstin, undod Cristnogol sydd ar frig agenda Rowan Williams.
