Anthony Hopkins

44. Anthony Hopkins

Perfformwyr (160 o bleidleisiau)

1937 –

Enillydd gwobr Oscar sy"n arbenigo mewn cymeriadau pwerus a chymhleth.

Bydd Anthony Hopkins yn cael ei gysylltu am byth ag un o funudau mwyaf iasol yn hanes y sinema. Yn y carchar, mae"r seicopath Hannibal Lecter yn syllu"n fygythiol ar Jodie Foster, ac yn dweud:

"A census taker once tried to test me. I ate his liver with some fava beans and a nice chianti"

Efallai fod chware rhan llofrudd cyfresol wedi ei roi ar "restr A" Hollywood, ond un enghraifft yn unig yw Silence of the Lambs o blith sawl ffilm lle mae Anthony Hopkins yn chwarae rhan ategol, ond wedyn yn dwyn y sylw i gyd.

Gyda rhannau fel y Capten Bligh penboeth yn The Bounty, neu Dr Treves oedd yn cael ei herio"n foesol yn yr Elephant Man, roedd eisoes yn enwog am gyflwyno perfformiadau pwerus ond cynnil. Mae cymeriadu mwyaf llwyddiannus Hopkins bob tro yn ymwneud â dynion cryf deallus ond sydd hefyd yn llawn gwewyr meddwl wrth ymladd y cythreuliaid o"u mewn.

Wrth chwilio am hanfod yr actor, mae"n anodd peidio â chael ein denu at Dick Hopkins, y pobydd llewyrchus o Bort Talbot, y mae ei fab wedi enwi fel dylanwad pwysig arno. Dywedodd wrth ei fywgraffydd swyddogol ym 1999 "Roedd fy nhad yn bersonoliaeth nerthol, llawn ynni oedd yn arfer mynd i bob math o gyfeiriadau"

Fel seren ifanc danllyd, yn syth allan o"r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, roedd Anthony Hopkins yntau yn cael ei adnabod fel un â "nerth" ac "ynni". Mae"n ymddangos iddo ddatblygu yn gymeriad mwy myfyrgar ar ôl cefnu ar alcohol yn y saith degau. "Penderfynais" meddai wrth gael ei gyfweld ym 1996, "i fwrw mlan â "mywyd".

Ni amharodd ei orchestion wrth ddiota ar ei yrfa gynnar o gwbl pan roedd galw mawr amdano ar gyfer cynhyrchiadau theatr a ffilm pwysig. Roedd wedi bod dan adain Laurence Olivier yn y Theatr Genedlaethol, ond America oedd yn rhoi"r wefr go iawn iddo, lle"n y pen draw y bu iddo gyflawni ei orchestion mwyaf.

Pe na bai wedi llwyddo fel actor gallai wedi gwneud bywoliaeth fel dynwaredwr. Gall ddynwared Tommy Cooper cystal ag unrhyw un yn y maes.

Eich sylwadau chi

Un o’r actorion gorau sy’n haeddu’r clod mae’n derbyn yn fyd-eang.

Heb os ef yw’r actor cymeriad gorau yn y byd ffilmiau heddiw, ac mae pawb yn gwybod mai CYMRO ydyw!

Gan mai ef yw un o’r actorion gorau ar y blaned, a’n ffefryn personol i.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru