Andrew Vicari

15. Andrew Vicari

Pobl Greadigol (873 o bleidleisiau)

1938 –

Arlunydd adnabyddus dros y byd i gyd - "Brenin arlunwyr, arlunydd brenhinoedd".

Nid Andrew Vicari a ddewisodd y teitl "Brenin Arlunwyr, Arlunwr Brenhinoedd" iddo"i hun - cylchgrawn Paris Match oedd yn gyfrifol am hynny. Nid yw"n un i arddel ffug-wyleidd-dra ac mae wrth ei fodd gyda"r teitl.

Yn debyg i"r ffordd yr oedd hen Feistri fel Holbein neu Van Dyck yn arfer denu nawdd brenhinoedd Ewropeaidd eu cyfnod, mae Vicari yn arlunydd llys i frenhinoedd mwyaf cyfoethog a phwerus y Dwyrain Canol.

Roedd am fod yn arlunydd o"r diwrnod yr enillodd £10 mewn cystadleuaeth leol ym Mhort Talbot. Aeth ymlaen i Ysgol Gelf Slade yn Llundain. Ef oedd y myfyriwr ifancaf erioed yn hanes yr ysgol. Yna, cafodd ei ddawn ei meithrin gan Francis Bacon a chyfarfu â"r arlunydd enwog o Gymru, Augustus John.

Mynnodd John fod Vicari ,wrth wneud portread ohono, yn tynnu llun yn hytrach na"i beintio. Roedd hon yn funud allweddol i Vicari. Arweiniodd ei ddawn dylunio fedrus at sawl comisiwn proffidiol dros y blynyddoedd i ddod. Mae ei arddull greadigol ef hefyd yn wrthgyferbyniad i"r "Gelfyddyd Brydeinig Newydd" a yrrir gan syniadaeth.

Mae ei waith yn llenwi tair amgueddfa yn Saudi Arabia - ffrwyth cyfres o gomisiynau gan frenin a llywodraeth y wlad. Yn ystod Rhyfel y Gwlff, teithiodd i faes y gad i arlunio 255 o luniau gwahanol, yn ffurfio cofnod swyddogol o"r gwrthdaro. Mae Vicari yn cadw un o hetiau"r Cadfridog Schwartzkopf i gofio am yr hyn ddigwyddodd.

Yn Tseina, Vicari oedd y pedwerydd arlunydd Gorllewinol yn unig i gael gwahoddiad i arddangos ei waith, gan ddilyn ôl traed Rodin, Miro a Chagall. Enillodd wobr "Prix Europeen des Beaux Arts" ac mae un o"i weithiau wedi disodli portread o Karl Marx yn neuadd y ddinas St Petersburg.

Yn ddiweddar, prynodd hen dŷ Pablo Picasso yn ne Ffrainc, gyda"r bwriad o agor coleg celf yno.

Mae wedi peintio murlun ysbrydoledig yn ystafell newid "anlwcus" Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, ac mae wedi dewis peidio â pheintio i Saddam Hussein.

Eich sylwadau chi

Arlunydd gorau Cymru – yr arlunydd byw gorau.

Mae wedi mynd â Chelf i dir newydd yn Sawdi-Arabia.

Peintiadau gwych, ac roeddem yn arfer chwarae gyda’n gilydd pan oedd yn byw ym Mrynmawr.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru