
28. Alfred Russell Wallace
Meddylwyr (313 o bleidleisiau)
1823 – 1913
Ganed y ffigwr Fictoraidd unigryw, Alfred Russell Wallace, ym Mrynbuga yn Sir Fynwy. Yn sgil trafferthion ariannol ei dad, bu’n rhaid iddo adael yr ysgol yn 13 oed. Cafodd brentisiaeth fel syrfëwr, ac ymhen amser ymunodd â chwmni ei frawd yng Nghastell-nedd.
Datblygodd ei ddiddordeb mewn materion gwyddonol pan ymaelododd â chymdeithasau dysg amrywiol y dref. Cafodd ei benodi’n guradur ar Amgueddfa Sefydliad Athronyddol a Llenyddol Castell-nedd.
Ar ôl i’w frawd farw’n ifanc ym 1845, cychwynnodd Wallace ar daith i Dde America er mwyn casglu samplau o’r Amazon. Ei ddiddordeb arbennig oedd esblygiad a sut oedd organebau
wedi datblygu dros gyfnodau hir o amser.
Ar ôl pedair blynedd yn yr Amazon, bu’n rhaid iddo ddychwelyd adref oherwydd afiechyd difrifol. Aeth ei long ar dân yng nghanol môr Iwerydd, ac fe dreuliodd Wallace ddeng niwrnod mewn cwch agored cyn iddo gael ei achub. Aeth ei gasgliad anferth o samplau i lawr gyda’r llong.
Ei daith nesaf i Indonesia fu’n ysbrydoliaeth i’w waith pwysicaf. Pan gafodd ei daro â’r clefyd malaria yno, fe ddatblygodd Wallace ddamcaniaeth Dethol Naturiol neu “barhad y trechaf”. Anfonodd ei gasgliadau mewn llythyr at Charles Darwin oherwydd gwyddai fod y gŵr hwnnw yn gweithio yn yr un maes.
Cafodd Darwin sioc o ddarllen llythyr Wallace. Roedd ef, yn annibynnol, wedi bod yn gweithio ar yr un ddamcaniaeth, er na fyddai ei gasgliadau ef yn barod am rai blynyddoedd. Cyflwynwyd pigion o waith y ddau mewn papur i Gymdeithas Linnean ym 1858.
Prysurodd Darwin i orffen ei waith, “On the Origin of Species”, a ystyrir yn un o’r gweithiau gwyddonol pwysicaf a ysgrifennwyd erioed.
Tra bod hanes wedi rhoi’r clod i Charles Darwin am y ddamcaniaeth Dethol Naturiol, roedd ei gyfoeswyr yn gwybod yn iawn am waith arloesol Wallace.
Yn ôl yr awdur a’r esblygiadydd Elaine Morgan: “Petai Darwin heb oroesi’r fordaith ar y Beagle, buasai’r clod am y syniad gwyddonol mwyaf dylanwadol y ddwy ganrif ddiwethaf wedi ei roi i’r Cymro o Frynbuga.”
