
82. Alexander Cordell
Pobl Greadigol (63 o bleidleisiau)
1914 – 1997
Awdur llwyddiannus a ysbrydolwyd gan dirwedd a hanes y Gymru ddiwydiannol.
Fe ddaeth George Alexander Graber i Gymru am y tro cyntaf pan gafodd ei anfon i Ynys Môn i gryfhau ar ôl cael ei anafu yn yr Ail Ryfel Byd. O dan ei ffug enw Alexander Cordell, fe fyddai"n cael ei ystyried yn ddiweddarach fel y Cymro mabwysiedig enwocaf ei oes.
Wedi ei lleoli yn ardal ddiwydiannol Blaenafon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y nofel Rape Of The Fair Country yn adrodd stori y teulu Mortymer a"u hymdrechion i oresgyn tlodi ac anghyfiawnder.
Ynghyd â The Hosts Of Rebecca a Song Of The Earth, mae"n un o gyfres o nofelau Cymreig sy"n bortread mor fyw o Gymru yn ystod y cyfnod diwydiannol cynnar cythryblus ag a geir gan unrhyw awdur. Yn glynu yn driw at ffeithiau hanesyddol, mae"n cyflwyno digwyddiadau fel geni undebaeth lafur a thwf mudiad y Siartwyr mewn arddull hynod ddarllenadwy.
Roedd gan Cordell ddawn storïwr go iawn, ac mae ei weithiau gorau i gyd yn meddu ar y peth prin hwnnw o fethu â"u rhoi i lawr. Roedd yn gwybod sut i gadw"r stori i symud, - gan gadw"r cydbwysedd rhwng munudau o ddrama fawr a thrasiedi, a darnau ysgafn a ffraeth.
Er bod rhywfaint o"i gynnyrch toreithiog wedi ei leoli mewn gwledydd eraill, y llyfrau am Gymru sydd wedi sefyll prawf amser orau, ac sydd wedi rhoi"r mwyaf o wefr i"w ddilynwyr niferus.
Roedd yn hoff o grwydro wrth reddf, ac fe adawodd Gymru i dreulio amser yn Hong Kong ac ar Ynys Manaw. Ond roedd rhywbeth yn ei ddenu yn ôl bob tro. Ar wahanol gyfnodau, ymgartrefodd yn y Fenni, Cas-Gwent, Aberdaugleddau a Wrecsam.
Roedd yn cerdded ger Bwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych pan syrthiodd yn farw, gyda thirwedd ddramatig Cymru, oedd wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth iddo, o"i gwmpas.
Mae Rape Of The Fair Country wedi ei gyfieithu i 30 o ieithoedd. Mae ei lwyddiant hefyd wedi gosod enw Blaenafon ar y map diwylliannol. Oherwydd y casgliad diddorol o adeiladau diwydiannol hanesyddol sydd yno, dyfarnwyd statws Treftadaeth Byd UNESCO i"r dref yn 2000. Yno hefyd erbyn hyn y mae amgueddfa Cordell.
