176 Diwrnod o 100 o Arwyr Cymru

"Yr unig bôl piniwn o bwys" : BBC Cymru Ar-lein

Ymysg y ffasiwn diweddaraf ar gyfer rhestrau a pholau piniwn (yr hoff senglau erioed, y comedïau gorau, a'r peiriannau torri gwair mwyaf arwyddocaol) a oedd wirioneddol angen un arall arnom oedd yn rhestru'r Cymry gorau erioed? Yr ateb, wrth gwrs yw, oedd. Ysbrydolwyd 100 o Arwyr Cymru yn rhannol gan bôl piniwn arall, sef "Great Britons" y BBC. Tri yn unig o dras Gymreig a oedd yn y rhestr honno ac ychydig fisoedd yn unig treuliodd un o'r triawd, T. E. Lawrence, yn ei wlad enedigol cyn i'w deulu symud i'r Alban.

Y Cymro

Mae'n rhaid bod Cymru gyda'i diwylliant cyfoethog a'i hanes hir wedi cynhyrchu nifer o bobl y mae eu llwyddiannau wedi dylanwadu a llunio nid yn unig eu mamwlad ond y byd ehangach hefyd. Pobl sydd wedi dangos nad yw'r Albanwyr bellach yn dal monopoli ar dorri tir newydd, y Saeson ar arweinyddiaeth na'r Gwyddelod ar huodledd. Ni chollwyd y pwynt ar Lywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghaerdydd, a roddodd y cyfarwyddiadau i dynnu sylw at yr Arwyr Cymreig hyn, a'u dathlu. Drwy Culturnet Cymru, y corff newydd a sefydlwyd i hybu diwylliant Cymru yn fyd-eang drwy'r Rhyngrwyd, roedd gan y Cynulliad yr union offeryn ar gyfer y swydd.

Felly, ar 8 Medi 2003, tawelwyd mwstwr disgwylgar cynhadledd i'r wasg yn sydyn pan gyrhaeddodd Anthony Hopkins a Catherine Zeta Jones yn annisgwyl. Nid hwy oeddynt mewn gwirionedd, fel y daeth hi i'r amlwg, ond rhai yr un ffunud â hwy, a ddaeth yno i gyflwyno thema'r ymgyrch: "Cynorthwywch ni i ddod o hyd i wir Arwyr Cymru!". Fel stynt cyfryngol, fe wnaeth y tric. Neilltuodd y Western Mail dudalen lawn i'r prosiect ac fe ddarlledodd Radio Wales y lansiad yn fyw. Y noson honno cafwyd adroddiadau newyddion ar BBC Wales Today, Wedi Saith ar S4C a sawl gorsaf radio leol. Cafodd 100 o Arwyr Cymru ddechrau gwych. O fewn ychydig oriau i'r gynhadledd i'r wasg, roedd sgriniau cyfrifiadurol Culturenet Cymru yn Aberystwyth wedi'u llenwi â channoedd o enwebiadau.

BBCRoedd sylw da gan y wasg yn hanfodol gan fod Culturenet Cymru yn ceisio gwneud rhywbeth unigryw. Tra bod polau piniwn tebyg wedi defnyddio paneli arbenigol neu dechnegau ymchwilio marchnad i lunio'r rhestr fer, dewiswyd y 100 o Arwyr Cymru hyn yn gyfan gwbl gan y cyhoedd. Gofynnwyd i'r pleidleiswyr ddewis eu harwyr ym mhob un o bump categori: Arweinwyr, Arloeswyr, Perfformwyr, Meddylwyr a Phobl Greadigol. Byddai'r cyfnod enwebu yn rhedeg hyd at ddiwedd Tachwedd. Yr ugain enw uchaf o bob categori fyddai'n ffurfio'r rhestr o 100 o Arwyr a fyddai'n symud ymlaen i'r bleidlais derfynol.

Yn fwy na phôl piniwn poblogrwydd yn unig, byddai'r 100 o Arwyr Cymru yn darparu adnodd gwerthfawr ar gyfer pawb sydd â diddordeb yng Nghymru a'r Cymry. I'r perwyl hwnnw, byddai'r wefan swyddogol hon - gyda'i bywgraffiadau manwl o bob arwr a enwebwyd - yn parhau ar-lein wedi'r prosiect. Byddai llyfr arbennig yn cael ei gomisiynu yn ddiweddarach, ynghyd â chyngerdd o dan y thema "Arwyr Cymru" yng Nghanolfan y Mileniwm newydd yng Nghaerdydd. Wrth gwrs, y pleidleiswyr fyddai'n penderfynu ar gynnwys hyn i gyd.

Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, derbyniwyd mwy na 3,000 o enwebiadau - nid o Gymru yn unig ond o amrywiaeth syfrdanol o wledydd ledled y byd, gan gynnwys Perw a China. Prawf, os oedd angen hynny, mai anaml mae'r Cymry estron yn colli cysylltiad a'r hen wlad. Crynhodd Alun Pugh AC, Gweinidog dros Ddiwylliant yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr ymateb dechreuol anferth a brwdfrydig hwn pan ddywedodd "dyma fesur o'r balchder yr ydym yn eu cymryd yn llwyddiannau ein cyd-Gymry."

Ymhellach, diflannodd unrhyw bryderon a gafwyd ynglŷn â chynnal diddordeb y wasg dros chwe mis yr enwebu a'r pleidleisio yn gyflym iawn. Yn naturiol, roedd y cyfryngau wedi'u hudo gan rai o'r enwau llai tebygol a ymddangosodd ymhlith y ceffylau blaen yn gynnar. Ochr yn ochr â'r triawd disgwyliedig Owain Glyndŵr, Aneurin Bevan a Tom Jones - enwau a fyddai'n dominyddu'r pleidleisio drwy'r prosiect - rhoddwyd sylw i ddigonedd o arwyr "cwlt". Ifor yr Injan, er enghraifft, oedd yr unig gymeriad ffuglennol i dderbyn enwebiadau. Dangosodd Mike Peters, canwr a phrif leisydd y cyn fand "Alarm", ei boblogrwydd parhaus ymhlith band o ddilynwyr ffyddlon a fyddai yn ei gadw ymhlith yr ugain uchaf drwy gydol y prosiect.

News of the WorldOnd presenoldeb gitarydd roc trwm ymhlith yr arweinwyr cynnar a ddenodd ddiddordeb y wasg dabloid. Roedd y News of the World, safonwr adnabyddus popeth diwylliannol, yn ddig bod Phil Campbell, o'r grŵp anferth Motorhead yn cael bod ysgwydd yn ysgwydd â rhai megis David Lloyd George a Dylan Thomas. Bygythiodd y NoW, "Ai Filthy Phil yw'r Arwr Cymreig gorau erioed?", gan ddrysu rhwng y poblogaidd a'r cwrtais Mr Campbell a Phil "Filthy Animal" Taylor, drymiwr hir ymadawedig Motorhead.

Gyda sylw mor amlwg, perswadiwyd hyd yn oed yn fwy o bleidleiswyr i ymuno â'r ddadl ar ran eu ffefrynnau eu hunain. A thra bod y sylw yn cael ei roi i'r rhai oedd yn arwain, roedd digon o arwyr anhysbys yn araf ymlwybro tuag at y 100 terfynol. Nid yw'r gwyddonydd Donald Davies, er enghraifft, yn enw cyfarwydd. Eto'i gyd, fel dyfeisiwr "cyfnewid pecynnau", fe arweiniodd y ffordd ar gyfer y Rhyngrwyd a chwaraeodd rôl bwysig yn y chwyldro technegol. Dyma un enghraifft yn unig ar sut oedd 100 o Arwyr Cymru yn rhoi cydnabyddiaeth hir ddisgwyliedig i nifer o Gymry hynod amlwg ond a oedd wedi'u hesgeuluso. Mae Elizabeth Andrews, a gyflwynodd y baddonau ben pwll a'r ysgol feithrin cyntaf i Gymru, yn un arall.

Cafodd y diddordeb yn y prosiect ei gynnal ymhellach drwy gefnogaeth wych rhaglen Nicola Heywood Thomas, ar BBC Radio Wales, a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r gwrandawyr ar symudiadau diweddaraf yr "Arwyr" ar dabl yr arweinwyr. Yn ogystal â hynny, llwyddodd Nicola i ddwyn perswâd ar lu o bersonoliaethau a oedd wedi'u henwebu i drafod y prosiect ar yr aer - gan gynnwys Colin Jackson, Simon Weston a Neil Kinnock, a enwodd eu harwyr eu hunain. Dewisodd Colin ei chwaer, yr actores Suzanne Packer, tra dewisodd Simon, Syr Tasker Watkins - y cyn farnwr ac enillydd y Groes Victoria. Enwebodd Neil, Cliff Morgan gan iddo "drawsnewid y gêm rygbi".

Western Mail

Fel y bu hi, ni lwyddodd yr un o "arwyr yr arwyr" i gyrraedd y rhestr fer derfynol. Ymhlith y rhai amlwg eraill oedd yn absennol oedd Shirley Bassey, Barry John a Max Boyce. Gydag ond ugain enw yn cael eu cynnwys o'r adran gystadleuol iawn "Perfformwyr", yn anffodus roedd yn anochel bod rhai personoliaethau poblogaidd yn colli allan. Ond nid bwriad 100 o Arwyr Cymru oedd bod yn rhestr drwyadl o bobl nodedig - yn hytrach cipolwg ar y farn boblogaidd a symbyliad ar gyfer dadlau a thrafod pellach.

Wrth i'r nosweithiau ymestyn a Thachwedd droi yn Rhagfyr, daeth cyfnod yr enwebu i ben. Dechreuodd dîm Culturenet Cymru ar y gwaith o ymchwilio ac ysgrifennu bywgraffiadau ar gyfer pob un o'r 100 Arwr a fyddai'n ymddangos ar y wefan. Roedd hyn yn dasg weddol syml lle'r oedd yr enwau mawrion yn y cwestiwn, gyda chyfoeth o ddeunydd print i dynnu ohono. Ar gyfer nifer o arwyr llai enwog roedd angen peth ymchwil wreiddiol. Er enghraifft, darparodd Hughes Hall, Caergrawnt, gipolwg defnyddiol ar fywyd ei sylfaenydd Cymreig, Elizabeth Phillips Hughes.

Y rhai cyntaf i gael cipolwg ar y bywgraffiadau oedd tîm cynhyrchu'r rhaglen Wedi Saith, S4C, a ymunodd yn hwyl 100 o Arwyr Cymru gyda chynlluniau ar gyfer cyflwyno ffilmiau byrion ynglŷn â'r arwyr a gafodd eu henwebu. Ar gyfer pawb oedd yn gysylltiedig, roedd y prosiect yn troi yn gwrs carlam yn hanes a diwylliant Cymru. Ni fydd angen i'r cyflwynydd Alun Gibbard boeni mwyach am ateb cwestiynau megis, "pwy ddyfeisiodd y gell danwydd?" neu "bwy oedd 'seryddwr y bobl' o Fangor?".

BBC Online

Roedd y Flwyddyn Newydd ond yn bedwar diwrnod oed pan ddangoswyd y rhestr derfynol i'r genedl. Unwaith eto, gwnaeth y cyfryngau Cymreig gyfiawnder â 100 o Arwyr Cymru gyda phytiau amlwg ar raglenni teledu a radio. Nid oedd y wasg yn llai brwdfrydig, gyda'r Daily Post, y South Wales Echo a'r Western Mail i gyd yn rhoi cefnogaeth sylweddol. Gyda dros 40,000 o enwebiadau'n cael eu derbyn, cytunwyd yn unfrydol mai 100 o Arwyr Cymru oedd pôl piniwn mwyaf a'r mwyaf awdurdodol ar "gewri" i'w chynnal erioed yng Nghymru. Ac erbyn hynny, roedd hefyd y pôl piniwn ar-lein mwyaf o unrhyw fath erioed i gael ei threfnu yng Nghymru.

Teimlwyd dylanwad y rhestr fer y tu hwnt i Gymru a rhoddodd y cyfryngau yn Llundain sylw i'r stori. Cafodd sylw yn y Times a'r Independent ynghyd â phapur rhad ac am ddim y Metro - a grynhodd y gymysgedd eclectig o enwau orau: "Os ofynnir i chi enwi'r Cymro neu'r Gymraes orau erioed, nid enw dyfeisydd y microffon yw'r cyntaf i ddod i'r meddwl. Nac ychwaith arloeswr amlosgi. Ond mae'r dyfeisydd David Hughes a William Price, y doctor o Oes Victoria a sefydlodd yr ymarferiad modern o amlosgi, ymhlith y 100 o Arwyr Cymru sy'n brwydro am y teitl." O'r diwedd mae'r wasg yn Llundain yn cydnabod y Cymry am rywbeth heblaw am ganu a chloddio glo!

Rhoddodd cyfnod terfynol, neu'r "cyfnod pleidleisio", ddau fis arall i bobl ddewis trefn derfynol y 100 o Arwyr ac, yn holl bwysig, ethol yr "enillydd" - y gŵr neu'r wraig a fyddai'n cael ei ethol neu ei hethol yr unigolyn gorau erioed o Gymru. Mewn pôl piniwn blaenorol ym 1913 rhoddwyd y goron honno i Owain Glyndŵr. Ef hefyd oedd "Cymro'r Mileniwm" ym mhleidlais ffôn BBC Wales. A allai ef gyflawni'r trebl?

Llwyddodd ffigyrau poblogaidd megis Dylan Thomas, Richard Burton a Gareth Edwards - gyda chymorth sylw defnyddiol yn Stadiwm y Mileniwm cyn gêm rygbi ryngwladol Cymru yn erbyn yr Alban - i wneud yn dda yn ystod y cyfnod cau. Ond roedd yn amlwg erbyn hynny y byddai'r enillydd terfynol yn un o'r "tri mawr": Tom Jones, Aneurin Bevan neu Glyndŵr. Dyfynnodd Atodiad Addysg y Times lefarydd ar ran Culturenet Cymru yn dweud bod y tri yn adlewyrchu gwahanol agweddau ar gymdeithas: "Mae gan Gymru ddau draddodiad hanesyddol. Ceir traddodiad y siaradwyr Cymraeg, a thraddodiad y gymdeithas ddiwydiannol iawn a gynhyrchodd Aneurin Bevan. Ac yna ceir Tom Jones, sy'n apelio at bobl nad ydynt â diddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond sy'n mwynhau llais da."

Byddai gwleidyddiaeth, serch hynny, yn ymddangos yng nghyfnod cau y bleidlais mewn modd na allai unrhyw un fod wedi disgwyl. Gyda Glyndŵr a Bevan bellach yn cyfnewid safleoedd ar y brig yn wythnosol, daeth hi i'r amlwg i'r trefnwyr, bod y pôl piniwn yn cael ei gymryd o ddifrif. Daeth y newyddion ynglŷn â'r dadlau i'r amlwg yn gyntaf yn y Western Mail o dan y teitl: "Y frwydr yn poethi wrth i Nye arwain Glyndŵr".

Western MailAdroddodd y papur sut y bu i Leighton Andrews, Aelod Llafur y Cynulliad, gwyno ynglŷn â swyddog yn Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a oedd yn ymgyrchu'n agored dros Owain Glyndŵr - ar draul yr arwr Llafur, Aneurin Bevan. Aeth y ddadl ymlaen i lenwi nifer o dudalennau yn y wasg Gymreig dros y dyddiau a ddilynodd. Unwaith eto, roedd 100 o Arwyr Cymru ar ei ennill - er nad oedd yn fwriadol - yn nhermau sylw'r wasg, ac o ran mwy o bleidleisiau na fyddai fel arall wedi'u bwrw. Serch hynny, roedd Nye Bevan wedi sefydlu blaenoriaeth fechan dros Glyndŵr erbyn hynny ac fe ymestynnodd y flaenoriaeth yn sylweddol erbyn y cyfnod cau.

Erbyn i'r pôl gau ar 23 Chwefror, roedd y 40,505 o bleidleisiau a fwriwyd y tu hwnt i bob disgwyliad Culturenet Cymru. Wrth ychwanegu'r enwebiadau a dderbyniwyd yng nghyfnod cychwynnol y prosiect, roedd cyfanswm o 81,728 o bleidleisiau ac enwebiadau yn wobr addas ar gyfer ymdrech ymroddedig pawb oedd yn gysylltiedig. Pa ymarfer diwylliannol arall yng Nghymru sydd wedi creu cyfranogiad gyhoeddus mor eang?

Fe rown y gair olaf i'r awdur Elaine Morgan, ffrind agos i'r prosiect a grynhodd popeth yn berffaith yn ei cholofn yn y Western Mail: "Credaf mai Nye Bevan oedd yr enillydd cywir. Roedd yn gystadleuaeth agos, ac roedd hynny'n wych. Ni fyddai wedi adlewyrchu Cymru'n iawn petai'n rhy unochrog, neu pe na bai peth ymgiprys a gwthio wedi bod wrth i'r cystadleuwyr gyrraedd y linell derfyn."

 

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru