Arwyr Cymru yn rhoi help llaw i blant beintio byd disgleiriach

Y 100 o Arwyr Cymru a ddewiswyd gan bobl Cymru yw testun prosiect peintio cymunedol cyffrous sy'n digwydd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

PeintiadMae'r Gweithdy Peintio Cymunedol yn brofiad gwerth chweil a chreadigol i blant a phobl ifanc o ysgolion, clybiau ieuenctid a chanolfannau cymunedol ledled Cymru. Gall grwpiau o 30 o blant neu bobl ifanc y diwrnod fwynhau cyfle unigryw i ymgymryd â phob agwedd ar beintio murluniau, gydag hyfforddiant arbenigol, yng ngweithdy'r Stadiwm.

Ar hyn o bryd mae'r cyfranogwyr yn ymgymryd â'r dasg o roi'r 100 Arwr i gyd ar gynfas ac mae rhai canlyniadau trawiadol iawn. Mae 83 o'r 100 Arwr bellach wedi'u cwblhau, a disgwyl i'r 17 terfynol gael eu peintio gan grŵp o blant o Ganolfan Teulu Barnardos yng Nghaerdydd ddechrau mis Awst.

Simon WestonWedi iddynt gael eu cwblhau, bydd y 100 portread yn cael eu harddangos ar lefel 5 yn Stadiwm y Mileniwm, ar y waliau hir ysgubol gyferbyn â'r mynedfeydd i'r blychau lletygarwch. Fe arwyddodd Simon Weston, a gyrhaeddodd rhif 26 ym mhôl piniwn yr Arwyr, ei bortread ef yn garedig pan fu i gêm dysteb Neil Jenkins. Roedd Simon mor falch o'i bortread fe ysgrifennodd neges at y ddwy ferch a'i peintiodd.

Cyn prosiect yr arwyr, cafodd y cyfranogwyr ifanc gyfle i weithio ar dasgau eraill yn cynnwys peintio carfanau rygbi a phêl-droed presennol Cymru. Mae'r peintiadau ac enwau'r arlunwyr yn cael eu harddangos drwy'r Stadiwm ac ar wefan Stadiwm y Mileniwm - fel rhan o arddangosfa Celf Gymunedol fwyaf Cymru. Mae gan y stadiwm sawl milltir sgwâr o waliau i'w llenwi â gwaith celf, felly bydd y prosiect peintio yn parhau am sawl blwyddyn, yn cynnwys murluniau mor fawr â 80 troedfedd!

Plant gydag Aneurin BevanMae'r Prosiect Peintio Cymunedol yn Fenter Gymunedol nid-er-elw sy'n gweithio gydag achosion teilwng lleol i ddarparu murluniau lliwgar, gwaith celf cynfas a gweithdai peintio ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r prosiect yn darparu'r gwaith celf, yr offer, y paent a'r deunyddiau eraill sydd eu hangen i'r rhai sy'n cymryd rhan ym mhrosiect y stadiwm, ynghyd â hyfforddiant peintio. Mae'r grwpiau hefyd yn cael cyfle i fwynhau eu cinio ar derasau'r stadiwm a chael mynd ar daith lawn o'r stadiwm, fel rhan o'u diwrnod.

I weld sut allwch chi gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn, neu i noddi plant i beintio gwaith celf, gallwch ymweld â 'r wefan ar www.pippinsdesigns.co.uk neu ffonio Jon neu Sally ar 07974 791717

 

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru